Verse 1
O’r dyfnder galwaf arnat ti
O fannau tywyll daw fy llais
O tro dy glust tuag ataf nawr
Ac o’th drugaredd gwranda, Iôr
Verse 2
Pe baet yn cyfri ’mhechod i
Sut fedrwn ddod at d’orsedd nawr?
Ond mae maddeuant llawn o’m mlaen
Rhyfeddaf at d’achubol ras
Chorus 1
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i
Ar dy air rwy’n pwyso nawr
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti
Nes i’m henaid fod yn llawn
Verse 3
Rho d’obaith di yn Nuw ei hun
Bydd ddewr yn nerth ei allu ef
A’i fuddugoliaeth llwyr am byth
Trwy Grist yn dod yn rhydd o’r bedd
Verse 4
Efe a ddaeth i agor ffordd
A Duw ei hun yn talu’r pris
I bawb sy’n pwyso arno ef
I gael iachâd trwy’i aberth drud
Chorus 2
Fe ddisgwyliaf i, fe ddisgwyliaf i
Drwy y storm a thrwy y nos
Fe ddisgwyliaf i, gwnaf, amdanat ti
(Dy) gariad di yw fy mwynhad
CCLI: 7153658
Genre / Suitable For
Downloads
Music resources for this song are not currently available.
Click to register your interest.
Register Interest

Cookie Preferences

We use cookies on this site, and we need to know you're happy with that.